1 Chronicles 6

Llinach y prif offeiriaid (Disgynyddion Lefi)

1Meibion Lefi:

Gershon, Cohath, a Merari.

2Disgynyddion Cohath:

Amram, Its'har, Hebron, ac Wssiel.

3Plant Amram:

Aaron, Moses, a Miriam.

Meibion Aaron:

Nadab, Abihw, Eleasar, ac Ithamar.

4Eleasar oedd tad Phineas, Phineas yn dad i Afishŵa, 5Afishŵa i Bwcci, a Bwcci i Wssi. 6Wssi oedd tad Seracheia, Seracheia yn dad i Meraioth. 7Meraioth oedd tad Amareia, ac Amareia yn dad i Achitwf. 8Achitwf oedd tad Sadoc, a Sadoc yn dad i Achimaats. 9Achimaats oedd tad Asareia, ac Asareia oedd tad Iochanan. 10A Iochanan oedd tad yr Asareia oedd yn offeiriad yn y deml roedd Solomon wedi ei hadeiladu yn Jerwsalem. 11Asareia oedd tad Amareia, ac roedd Amareia yn dad i Achitwf. 12Achitwf oedd tad Sadoc, a Sadoc yn dad i Shalwm. 13Roedd Shalwm yn dad i Chilceia, Chilceia i Asareia, 14Asareia i Seraia, a Seraia i Iehotsadac. 15Cafodd Iehotsadac ei gymryd yn gaeth pan wnaeth yr Arglwydd ddefnyddio Nebwchadnesar i gymryd pobl Jwda a Jerwsalem i'r gaethglud.

Claniau y Lefiaid

16Meibion Lefi:

Gershom, Cohath, a Merari.

17Meibion Gershom:

Libni a Shimei.

18Meibion Cohath:

Amram, Its'har, Hebron, ac Wssiel.

19Meibion Merari:

Machli a Mwshi.

Dyma'r claniau o Lefiaid bob yn deulu.

20Disgynyddion Gershom:

Libni, ei fab, wedyn Iachath ei fab e, ac i lawr y cenedlaethau drwy Simma, 21Ioach, Ido, Serach, i Ieatrai.

22Disgynyddion Cohath:

Aminadab, ei fab, wedyn Cora, ei fab e, ac i lawr y cenedlaethau drwy Assir, 23Elcana, Ebiasaff, Assir, 24Tachath, Wriel, Wseia, i Saul.

25Disgynyddion Elcana:

Amasai ac Achimoth, 26wedyn ei fab Elcana, a'i fab e, Soffai, ac i lawr drwy Nachath, 27Eliab, Ierocham, a'i fab e Elcana.

28Meibion Samuel:

Joel
6:28 Joel Mae'r enw ar goll yn yr Hebraeg.
, y mab hynaf, ac Abeia, yr ail.

29Disgynyddion Merari:

Machli, ei fab Libni, wedyn ei fab e Shimei ac i lawr y cenedlaethau drwy Wssa, 30Shimea, Haggia, yna Asaia.

Cerddorion y Deml

31Dyma'r rhai oedd Dafydd wedi eu penodi i arwain y gerddoriaeth yn y cysegr, ar ôl i'r arch gael ei gosod yno. 32Buon nhw'n arwain y gerddoriaeth o flaen cysegr Pabell Presenoldeb Duw nes i Solomon adeiladu'r deml yn Jerwsalem. Roedden nhw ar ddyletswydd yn y drefn oedd wedi ei gosod.

33Dyma'r rhai oedd yn y swydd yma, nhw a'u meibion:

Disgynyddion Cohath:

Heman y cerddor, mab Joel oedd a'i linach yn estyn yn ôl trwy Samuel, 34Elcana, Ierocham, Eliel, Toach, 35Swff, Elcana, Machat, Amasai, 36Elcana, Joel, Asareia, Seffaneia, 37Tachath, Assir, Ebiasaff, Cora, 38Its'har, Cohath, i Lefi.

39Yna Asaff, un arall o lwyth Lefi, oedd yn ei helpu. Asaff oedd mab Berecheia, a'i linach yn estyn yn ôl trwy Shimea, 40Michael, Baaseia, Malcîa, 41Ethni, Serach, Adaia, 42Ethan, Simma, Shimei, 43Iachath, a Gershom, i Lefi.

44Yna, yn eu helpu nhw, roedd eraill o lwyth Lefi oedd yn ddisgynyddion i Merari.

Eu harweinydd nhw oedd Ethan fab Cishi, oedd a'i linach yn estyn yn ôl trwy Afdi, Malŵch, 45Chashafeia, Amaseia, Chilceia, 46Amtsi, Bani, Shemer, 47Machli, Mwshi, a Merari, i Lefi.

48Roedd gweddill y Lefiaid yn gyfrifol am bopeth arall roedd angen ei wneud yn y tabernacl, sef cysegr Duw.

Disgynyddion Aaron

49Ond Aaron a'i feibion oedd yn gweini wrth yr allor lle roedd anifeiliaid yn cael eu llosgi a'r allor lle roedd arogldarth yn cael ei losgi. Nhw, felly, oedd yn gwneud yn gwaith yn y Lle Mwyaf Sanctaidd. Roedden nhw yn gwneud pethau'n iawn rhwng Duw ac Israel, fel roedd Moses gwas yr Arglwydd wedi gorchymyn.

50Dyma ddisgynyddion Aaron:

Eleasar ei fab, wedyn Phineas ei fab e, ac ymlaen drwy Afishŵa, 51Bwcci, Wssi, Seracheia, 52Meraioth, Amareia, Achitwf, 53Sadoc, ac Achimaats.

Trefi a tir y Lefiaid

54A dyma'r ardaloedd lle roedd disgynyddion Aaron yn byw:

Dyma'r ardaloedd gafodd eu rhoi i glan Cohath (Nhw oedd y grŵp cyntaf i gael eu rhan): 55Dyma nhw'n cael tref Hebron yn Jwda, a'r tir pori o'i chwmpas. 56(Ond roedd caeau'r dref a'r pentrefi o'i chwmpas wedi eu rhoi i Caleb fab Jeffwnne.)
57Cafodd disgynyddion Aaron y trefi lloches canlynol hefyd: Hebron, Libna, Iattir, Eshtemoa, 58Cholon, Debir, 59Ashan, a Beth-shemesh, a'r tir pori o gwmpas pob un.
60Yna o fewn tiriogaeth llwyth Benjamin dyma nhw'n cael Geba, Alemeth, Anathoth, a'r tir pori o gwmpas y rheiny.

Felly cafodd eu claniau nhw un deg tair o drefi i gyd.
61A cafodd gweddill disgynyddion Cohath ddeg pentref oedd o fewn i diriogaeth hanner llwyth Manasse.

62Cafodd claniau Gershom un deg tair o drefi oedd o fewn tiriogaeth llwythau Issachar, Asher, Nafftali a Manasse
63Cafodd claniau Merari un deg dwy o drefi oedd o fewn tiriogaeth llwythau Reuben, Gad a Sabulon.

64Rhoddodd pobl Israel y trefi yma, a'r tir pori o'u cwmpas, i lwyth Lefi. 65Roedd y trefi yma, o diriogaeth Jwda, Simeon a Benjamin, wedi eu henwi ymlaen llaw.

66Cafodd rhai o deuluoedd disgynyddion Cohath dir o fewn tiriogaeth llwyth Effraim. 67Sichem, ym mryniau Effraim, Geser, 68Jocmeam, a Beth-choron, 69Aialon, a Gath-rimmon a'r tir pori o gwmpas pob un.
70O diriogaeth hanner llwyth Manasse dyma weddill disgynyddion Cohath yn cael Aner a Bileam, a'r tir pori o'u cwmpas nhw.

71Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i ddisgynyddion Gershom:

O hanner llwyth Manasse dyma nhw'n rhoi Golan yn Bashan ac Ashtaroth, a'r tir pori o'u cwmpas nhw.
72O diriogaeth llwyth Issachar: Cedesh, Daberath, 73Ramoth, ac Anem, a'r tir pori o gwmpas pob un.
74O diriogaeth llwyth Asher: Mashal, Abdon, 75Chwcoc, a Rechob, a'r tir pori o gwmpas pob un.
76O diriogaeth llwyth Nafftali: Cedesh yn Galilea, Hammon, a Ciriathaim, a'r tir pori o gwmpas y rheiny.

77Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd gweddill disgynyddion Merari:

O diriogaeth llwyth Sabulon: Rimmon a Tabor a'r tir pori o'u cwmpas.
78O diriogaeth llwyth Reuben, yr ochr draw i'r Afon Iorddonen i'r dwyrain o Jericho: Betser yn yr anialwch, Iahats, 79Cedemoth, a Meffaäth, a'r tir pori o gwmpas pob un o'r rheiny.
80O diriogaeth llwyth Gad: Ramoth yn Gilead, Machanaîm, 81Cheshbon, a Iaser, a'r tir pori o gwmpas pob un.
Copyright information for CYM